Gwelwyd digwyddiad Rhwydweithio Gaeaf KESS 2 llwyddiannus unwaith eto ar 19eg o Ragfyr 2018, a gynhaliwyd gan y tîm ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyflwynodd y digwyddiad gyfle i gyfranogwyr KESS 2 rwydweithio a chydweithio a fe fynychwyd gan llawer o fyfyrwyr, academyddion a gweinyddwyr PGR o’r ysgolion academaidd.
Agorwyd y digwyddiad gyda sesiwn hwyl o gwestiynau ‘torri ias’ a oedd yn caniatáu i’r cynadleddwyr ddod i adnabod ei gilydd yn eu grwpiau drwy trafodaeth agored a chyfle i rannu gwybodaeth. Fe’i anogwyd i nodi unrhyw gysylltiadau annisgwyl a gododd rhwng aelodau’r grŵp yn ystod y drafodaeth i helpu ddatgloi cyfleoedd cydweithio newydd yn y dyfodol ag i ffurfio cymuned gryfach o ysgolheigion KESS 2 ym Mhrifysgol Caerdydd.
Un o’r siaradwyr gwadd yn y digwyddiad oedd Dr James Vafidis, Alumnus KESS ac yn awr yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste. Rhoddodd Dr Vafidis sgwrs ar y siwrne i fywyd academia yn dilyn ei amser fel myfyriwr PhD yn ystod prosiect cyntaf KESS (KESS 1, a oedd yn rhedeg rhwng 2009 a 2014). Cynigiodd hefyd ddealltwriaeth werthfawr i gyfranogwyr KESS 2 presennol, gan siarad am fanteision cydweithredu diwydiannol y mae’r rhaglen yn ei gynnig a sut mae’r ffordd hon o weithio wedi cyfrannu’n gadarnhaol at ei yrfa hyd yn hyn.
Yna siaradodd Josh Davies, cyfranogwr KESS 2 presennol ym Mhrifysgol Caerdydd, a’i oruchwyliwr academaidd yr Athro Phil Davies (Ysgol Cemeg) am y gwahanol ymgysylltiadau y mae eu prosiect ymchwil wedi bod yn rhan ohono. Mae cyflawniad Josh o ganlyniad i gymryd rhan yn y cyfleoedd hyn yn enghraifft wych o’r ymgysylltiad cadarnhaol y gellir ei gyflawni; roedd hyn yn cynnwys y cyfle i siarad mewn sgwrs TEDx, ysgrifennu erthygl ar gyfer The Conversation a chyd-drefnu Cynhadledd Amlddisgyblaeth Nanithoniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Anogodd yr Athro Phil Davies academyddion i gefnogi eu myfyrwyr pryd bynnag y bo modd er mwyn gallu gwneud y gorau o arddangos eu prosiectau ar y mathau hyn o lwyfannau.
Bu cloi y digwyddiad gyda chyflwyniad am y gwasanaeth gyrfa a chyfleoedd hyfforddi sydd ar gael ym Mhrifysgol Caerdydd gan gynrychiolydd o’r Academi Ddoethurol.