Enillodd KESS 2, sy’n cael ei redeg gan Brifysgol Bangor ar ran y sector addysg uwch yng Nghymru, y Wobr Partneriaeth ac enillwyd y Wobr am Broses Newydd gan Dr Steffan Thomas o Brifysgol Bangor Recordiau Sain Cyf/Sain Records Ltd. Roedd hwn hefyd yn brosiect a gyflawnwyd trwy’r cynllun KESS blaenorol a Phartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).
Tag: Prifysgol Bangor
Project Seicoleg Bositif yn anelu at wella lles yn y gweithle a rhagolygon gwaith i unigolion yn Y Rhyl
Mewn byd lle mae’r rhan fwyaf ohonom yn treulio cyfran fawr o’n bywydau yn y gwaith, rydym angen creu awyrgylch sy’n meithrin cynhyrchiant, ysgogiad a chefnogaeth yno. Mae myfyriwr ym Mhrifysgol Bangor wedi cael yr union dasg honno. Bydd Kate Isherwood, myfyriwr PhD yn yr Ysgol Seicoleg, yn ymchwilio i ddefnyddio dulliau Seicoleg Bositif a Newid Ymddygiad yn y gweithle, a hynny dan oruchwyliaeth Yr Athro John Parkinson.
Lansiad KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor gan Mark Drakeford AM
Lansiwyd Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth 2 (KESS 2), prosiect £36m a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Llywodraeth Cymru, yn swyddogol ym Mhrifysgol Bangor gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford AM ar 26 Gorffennaf, 2016.