Ddydd Iau 27 Gorffennaf yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, roedd KESS 2, prosiect a ariennir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, yn cyflwyno gwobrau i dri enillydd cystadleuaeth mewn noson ddiddorol o gyflwyniadau byw ac arddangosfa o Ddelweddau Ymchwil, yn dwyn yr enw ‘Creu Tonnau’. Daeth myfyrwyr, cwmnïau a phobl o’r byd academaidd i’r digwyddiad a dangoswyd rhywfaint o’r prosiectau ymchwil a ariennir gan yr UE sydd ar waith ar hyn o bryd yng Nghymru fel rhan o raglen a gefnogir gan Lywodraeth Cymru.
Drwy ddwyn ynghyd y bobl sy’n cymryd rhan mewn prosiectau o bob cwr o Gymru, llwyddodd noson Gwobrau KESS 2 i dynnu sylw at yr amrywiaeth eang o ymchwil sy’n cael ei chynnal yn yr Ardal Gydgyfeirio gyfan. Mae pob prosiect KESS 2 yn creu cysylltiadau rhwng byd busnes a’r byd academaidd. Drwy gyfrwng y digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal bob blwyddyn, rhoddwyd cyfle i bob un o’r grwpiau hyn gysylltu, trafod a dathlu eu prosiectau ymchwil sydd ar waith.
Trefnwyd y noson yn seiliedig ar gyfres o wyth cyflwyniad ‘Traethawd Tri Munud’ gan fyfyrwyr a dderbyniodd yr her i gyflwyno eu prosiectau ymchwil o fewn 3 munud yn unig. Cafodd pob cyflwyniad ei feirniadu ar y noson gan y gynulleidfa ar sail y meini prawf canlynol – dull cyflwyno, eglurder, ymgysylltiad a thystiolaeth o gydweithio. Roedd meini prawf ychwanegol yn cael eu beirniadu ar wahân gan Dr Einir Young a Dr Gwenith Elias o’r Labordy Cynaliadwyedd, Prifysgol Bangor, ar sail pa mor dda roedd pob cyflwyniad yn llwyddo i roi sylw i ‘Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol’ (2015).
Anne Collis, myfyrwraig Doethuriaeth KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor mewn partneriaeth â Barod, oedd yr enillydd cyffredinol am ei chyflwyniad rhagorol, a rhoddwyd y Wobr Cynaliadwyedd i Rhiannon Chalmers-Brown, myfyrwraig Doethuriaeth KESS 2 o Brifysgol De Cymru mewn partneriaeth â TATA Steel.
Yn y digwyddiad hefyd, cyflwynwyd y gystadleuaeth Delweddau Ymchwil KESS 2 am y tro cyntaf ar y thema ‘Creu Tonnau’. Cafodd y gystadleuaeth delweddau, a oedd yn annog myfyrwyr i gyflwyno eu hymchwil drwy gyfrwng gweledol, ei beirniadu’n allanol gan Sian Tomos (Cyfarwyddwr Menter ac Adfywio, Cyngor Celfyddydau Cymru), Alison Mitchell (Cyfarwyddwr Datblygu, Vitae), a Vince Jones (Whole Picture Productions). Rhoddwyd y wobr am y Ddelwedd Ymchwil Orau i Olivia Howells, myfyrwraig Doethuriaeth KESS 2 o Brifysgol Abertawe mewn partneriaeth â BIOMEMS Technology Ltd.
Dr Penny Dowdney, Rheolwr KESS 2 Cymru, fu’n arwain y noson gan ddweud,
“Diolch o galon i’r 100 o bobl a ddaeth i’r noson Gwobrau KESS 2 gyntaf. Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i glywed am y partneriaethau ymchwil amrywiol y mae KESS 2 yn eu cefnogi ledled Cymru. Mae’n braf gweld myfyrwyr ymchwil KESS 2 yn cyflwyno eu hymchwil, drwy gyfrwng cyflwyniad neu ddelwedd, gyda chefnogaeth eu goruchwylwyr academaidd a’u cwmnïau partner. Diben digwyddiad Gwobrau KESS 2 yw dathlu llwyddiant a chydnabod yr effaith a gaiff KESS 2 ledled Cymru.”
Mae Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn cysylltu cwmnïau a sefydliadau sydd ag arbenigedd academaidd i gynnal prosiectau ymchwil sy’n diwallu anghenion busnes gweithredol neu ei sector. Mae KESS 2 yn brosiect cydweithredol a gefnogir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) drwy Lywodraeth Cymru ac yn cynnwys pob prifysgol yng Nghymru, dan arweiniad Prifysgol Bangor.
Oriel y Digwyddiad
Ffotograffiaeth: Vince Jones @ Whole Picture Productions