Myfyriwr (MPhil): Patrick Cronin
Goruchwyliwr: Dr Simon Payne
Lleoliad: Prifysgol Aberystwyth
Math o Ganser: Ysgyfaint
Dyddiad dechrau a gorffen: Medi 2017 – Medi 2018
Mae nyrsys canser yr ysgyfaint yn wynebu tasg hynod anodd: mae hanner y bobl sydd â Chanser yr Ysgyfaint yn marw o fewn chwe mis ar ôl cael diagnosis, 75% o fewn blwyddyn, ac mae’r cyfraddau goroesi pum mlynedd yn ~9% (Cymorth Canser MacMillan, 2014); sut mae cefnogi cleifion yn gadarnhaol a chithau – a hwythau mae’n siŵr – yn gwybod pa mor ddigalon yw eu siawns?
Mae ein cydweithwyr yn IBERS a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cydweithio â Gofal Canser Tenovus i gywiro problem canfod yn gynnar sy’n cyfrannu at y ffigyrau brawychus hyn. Ac rydyn ninnau’n cynnig thema ymchwil yn y gwyddorau cymdeithasol ar yr un pryd, i helpu’r nyrsys sy’n gweithio ar y ‘rheng flaen’ yn y frwydr hon. Bydd yr ymchwil yn canfod technegau seicolegol i’w hyfforddi i nyrsys i wella gallu cleifion i ymdopi, a thrwy hynny i wella eu hagwedd a’u profiad ar ôl cael diagnosis.
Yr ail nod yw sefydlu IBERS, gyda Gofal Canser Tenovus yn sefydliad cyswllt agos, fel esiampl o ymchwil canser arloesol sy’n rhoi’r lle blaenllaw i’r unigolion dan sylw yn hytrach nag i’w clefyd.