Llwyfan drosoffila in vivo ar gyfer canfod biofarcwyr sensitifrwydd i ymbelydredd

Terrence TrincaMyfyriwr: Terrence Trinca
Goruchwyliwr: Dr Joaquín de Navascués Melero
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd
Math o Ganser: Pob un – Radiotherapi
Dyddiad dechrau a gorffen: Hydref 17 – Hydref 20

Mae radiotherapi yn rhan hanfodol o driniaeth ganser. Mae’n cael ei argymell i ryw 50% o’r holl gleifion canser. Mae’n gyfrifol am 40% o bob iachâd, ac mae’n gost-effeithiol iawn (5% o gostau gofal canser). Er hynny, mae ei effeithiolrwydd wedi’i gyfyngu gan docsicedd ymbelydredd ïoneiddio i’r meinwe normal, a gall ei effeithiau fod yn llym (oriau i wythnosau ar ôl y driniaeth) a chronig (misoedd i flynyddoedd). Gall yr effeithiau hwyr fod yn ddifrifol iawn a chael dylanwad mawr ar ansawdd bywyd goroeswyr canser, a hynny flynyddoedd ar ôl y driniaeth.

Gyda mwy o bobl yn goroesi canser, mae niwed oherwydd ymbelydredd cronig yn bryder gofal iechyd cynyddol. Ar hyn o bryd, mae dosiau radiotherapi yn cael eu diffinio’n gyffredinol fel bod llai na 5% o gleifion yn dioddef tocsicedd hwyr difrifol.

Nod y prosiect hwn yw canfod biofarcwyr posibl ar gyfer rhagdueddiad i niwed ymbelydredd cronig mewn cleifion canser sy’n cael radiotherapi. Os canfyddir biofarcwyr, gallai hyn ganiatáu rhagnodi dosau personol o ymbelydredd, ac felly gallai gwybodaeth am natur tocsicedd hwyr arwain at gyd-driniaethau i leihau’r sgil-effeithiau hyn.

<< Yn ôl