Y Rhwydwaith Alumni KESS 2
Lansiwyd y Rhwydwaith Alumni yn wreiddiol yn 2014 i gadw’r cysylltiadau a’r perthnasoedd gwerthfawr a sefydlwyd gan gyfranogwyr KESS. Mae KESS 2 yn ceisio ehangu ar y rhwydwaith hwn a fydd yn rhedeg trwy dudalen grŵp LinkedIn*.
Mae’r rhwydwaith ar gyfer myfyrwyr sydd wedi bod yn rhan o’r rhaglen ag hefyd ar gyfer yr academyddion a’r partneriaid cwmni sy’n cymryd rhan. Mae’n rhoi cyfle i’r rhai sydd wedi bod yn rhan o KESS 2 rwydweithio, sydd â’r potensial i ysgogi cydweithredu pellach.
I ymuno â’n Rhwydwaith Alumni, cliciwch yma i ymweld â thudalen grŵp LinkedIn *.
*Noder y bydd angen cyfrif LinkedIn arnoch er mwyn gweld ac ymuno â’r grŵp. Nid oes gan KESS 2 unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau allanol.
Beth mae ein Alumni yn ei ddweud?
Mirain Llwyd Roberts |
Dywed Mirain Llwyd Roberts a wnaeth ei hymchwil ôl-raddedig KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor ac sydd bellach yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd:“Yn ystod fy mlwyddyn fel myfyrwraig KESS 2 ac ers hynny yn gweithio i Gyngor Gwynedd rwyf wedi cael y cyfle i weithio ar sawl prosiect pontio’r cenedlaethau. Cefais sawl profiad y byddaf yn ei drysori am amser maith yn ystod fy nghyfnod yn astudio gyda KESS 2.” |
Dr Manon Pritchard |
Dr Manon Pritchard o Brifysgol Caerdydd a weithiodd gydag AlgiPharma AS ar ei phrosiect PhD KESS ac sydd bellach yn Gymrawd Sêr Cymru II:“Hoffwn ddiolch yn bersonol i KESS mewn perthynas â’m llwyddiannau academaidd dros y 9 mlynedd diwethaf, ac rwyf yn parhau hyd heddiw i gydweithio â’r un partner diwydiannol a sefydlwyd yr holl flynyddoedd hynny’n ôl. Mae’n rhaglen cymorth cyllid PGR yng Nghymru sy’n gweithio gyda diwydiant ac mae’n hanfodol i gadw doniau ymchwil cynhenid yn y wlad. Rwy’n un o nifer o fyfyrwyr dros y degawd diwethaf sydd yn sicr wedi elwa ar y rhaglen ardderchog hon.” |
Dr Christian Dunn |
Mae Dr Christian Dunn o Brifysgol Bangor, a fu’n gweithio gydag Energy and Environment Business Services Cyf yn ystod ei gyfnod gyda KESS, bellach yn gweithio gyda’r Brifysgol fel darlithydd ac yn arolygu ei fyfyrwyr KESS ei hun. Dywedodd am y prosiect:
“Rydych chi’n cael y gorau o ddau fyd: y byd academaidd a diwydiant. Mae Prifysgol Bangor yn cynnig digon o gefnogaeth a hyfforddiant ar gyfer ei hysgolheigion KESS, ac felly yr ydych chi, mae’n debyg, yn dod oddi yno gyda mwy o sgiliau trosglwyddadwy ac yn fwy cyflogadwy na drwy ffyrdd eraill o gael PhD”. |
Dr Diane Jones |
Dr Diane Jones o Brifysgol Bangor a fu’n gweithio yng Nghanolfan Cae’r Gors yn ystod ei phrosiect PhD KESS. Symudodd Diane o’r Brifysgol ac mae’n gweithio yn awr o fewn yr awdurdod lleol:
“Ar hyn o bryd, rydw i’n gweithio fel Rheolwr Strategol i Gonsortiwm Addysg Ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn ac mae gen i swydd ran-amser yn ogystal fel Tiwtor Iaith yn yr Adran Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor. Roeddwn i’n dychwelyd i’r gwaith ar ôl bod adref gyda’m plant am ychydig o flynyddoedd. Roedd strwythur ysgoloriaeth KESS yn ddelfrydol i mi oherwydd ei fod yn cymysgu profiad gwaith gyda dysgu ac ymchwil”. |
Dr James Evans |
Mae Dr James Evans o Brifysgol Caerdydd wedi parhau i weithio â’i gwmni partner, Cultech Cyf ers cwblhau ei PhD gyda KESS:
“Mae KESS wedi fy ngalluogi i gwblhau PhD, cymryd cyrsiau ychwanegol er mwyn cynyddu fy nghyflogadwyedd a chysylltu â chyflogwr lleol yn ogystal sydd ar ôl hynny wedi rhoi cyfle i mi weithio gyda nhw. Gydag anawsterau cyflogadwyedd yn wynebu myfyrwyr ar hyn o bryd, roedd y cyfle hwn yn un gwerthfawr.” |