
Carlo Kupfernagel Yn cyflwyno yn Rhwydwaith Gogledd Ewrop ar gyfer Gwyddor Pren a Pheirianneg
Yn ddiweddar, enillodd Carlo Kupfernagel, ymgeisydd PhD KESS 2 o Brifysgol Bangor, Wobr Myfyriwr am y Cyflwyniad Llafar Gorau yn yr 18fed cyfarfod blynyddol Rhwydwaith Gogledd Ewrop ar gyfer Gwyddor Pren a Pheirianneg (WSE 2022), a gynhaliwyd gan Brifysgol Goettingen, yr Almaen.
Mae’r rhwydwaith yn cynnwys 10 bartner wlad, a’i nod yw cyfrannu at optimeiddio’r adnoddau sy’n cael eu gwario o fewn Gwyddor Pren a Pheirianneg yn ardal EFI NORD. Y nod yw cydlynu ymchwil Gogledd Ewrop yn y maes hwn trwy gynnal cysylltiad rhwng uwch ymchwilwyr, myfyrwyr PhD, a chynrychiolwyr diwydiannol. Mae’r rhwydwaith yn targedu pren, cynhyrchion pren, eu cynhyrchiad, a’u defnydd mewn adeiladu.
Roedd cynhadledd eleni yn canolbwyntio ar ‘Mynd i’r afael â phrinder adnoddau yn y diwydiant coed o dan amodau coedwigaeth Ewropeaidd newidiol’. Fel rhan o’r digwyddiad, roedd Carlo yn gallu mynychu gweithdy cyn-gynhadledd wedi’i deilwra’n benodol ar gyfer ymchwilwyr PhD ac ymchwilwyr gyrfa gynnar o bob rhan o Ogledd Ewrop. Rhoddodd hyn gyfle i’r cynrychiolwyr ryngweithio a rhannu gwybodaeth ymhlith ymchwilwyr newydd yn y maes; mantais bwysig o gydweithio o fewn Rhwydwaith Gogledd Ewrop ar gyfer Gwyddor Pren a Pheirianneg. Testun y gweithdy oedd ‘Perfformiad, potensial, a chyfyngiadau pren caled Ewropeaidd. Rhoddwyd darlithoedd damcaniaethol ac ymarferol gyda ffocws ar:
- Graddio ansawdd pren caled wedi’i lifio
- Addasu pren cemegol
- Gludo ac uniad bysedd
- Profion perfformiad yn yr awyr agored
Gwobrwywyd Carlo am y cyflwyniad llafar gorau yn y gynhadledd a dywedodd, “Roedd y gynhadledd hon yn gyfle gwych i gyflwyno rhai o fy ngwaith mwyaf cyffrous. Cefais fy synnu braidd, ond hefyd yn hapus iawn i ennill y wobr. Gan fod gwyddoniaeth bob amser yn ymdrech gydweithredol, hoffwn ddiolch i’m holl gyd-awduron am wneud yr ymchwil hwn yn bosibl! Rwy’n awyddus iawn i barhau â’r gwaith.”
Cyflwynodd Carlo hefyd waith o’i draethawd ymchwil sy’n dwyn y teitl ‘Cell wall diffusion of low molecular weight PUF resin studied by liquid- and solid-state NMR’ lle’r oedd yn esbonio’r cludiant deunydd is-microsgopig o resin ffenol-wrea-fformaldehyd mewn pren yn ystod sychu.

Cynhadledd Gwyddor Pren a Pheirianneg yn Goettingen, yr Almaen.
Darllenwch fwy am bapur cynhadledd Carlo yn: https://www.researchgate.net/publication/363772334_Cell_wall_diffusion_of_low_molecular_weight_PUF_resin_studied_by_liquid-_and_solid-state_NMR
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect ymchwil PhD Carlo, ewch i: https://kess2.ac.uk/case-studies/wood-modification/
Cyhoeddiadau:
Kupfernagel, C., Spear, M.J., Pitman, A.J. et al. Wood modification with phenol urea formaldehyde (PUF) resin: the influence of wood species selection on the dimensional stability. Eur. J. Wood Prod. (2022). https://doi.org/10.1007/s00107-022-01893-5
Erthyglau cysylltiedig:
https://kess2.ac.uk/cy/collaborative-research-brings-high-praise/