Ar 8 Mehefin 2022, ymddangosodd ymchwilydd PhD KESS 2 Tom Major, a’i gyfoedion o Brifysgol Bangor Lauren Jeffrey o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol, ar Springwatch y BBC yn rhannu eu hymchwil ar y boblogaeth nadroedd Aesculapaidd a gyflwynwyd ym Mae Colwyn.
Mae Tom a Lauren wedi bod yn tracio’r nadroedd gyda offer radio, gan ganiatáu iddynt ddeall eu defnydd o’u cynefin a’u patrymau symud. Maent hefyd wedi bod yn cynnal astudiaeth ail-gipio marciau i gyfrifo maint y boblogaeth.
Dywedodd Tom,
“Roedd cael fy ffilmio ar gyfer Springwatch yn brofiad gwych, roedd yn gyffrous gweld sut mae cynhyrchiad yn cael ei wneud gan weithwyr proffesiynol y BBC. Mae’n amlygiad gwych i’r prosiect, ac yn braf iawn gweld yr ymateb y mae wedi bod yn ei gael ar gyfryngau cymdeithasol. Mae gan bobl ddiddordeb mawr mewn nadroedd!”
Gellir wylio nodwedd Springwatch Tom a Lauren isod neu ar BBC iPlayer https://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/m00184f6/springwatch-2022-episode-7 (yn cychwyn am 35:40)
Erthyglau perthnasol:
Ymchwilydd KESS 2 o Brifysgol Bangor yn cyflwyno manylion symudiadau nadroedd mewn cynhadledd (16/02/2022) https://kess2.ac.uk/cy/tom-major-conference/
Five ingenious ways snakes manipulate their bodies to hunt and survive (08/02/2018) https://kess2.ac.uk/five-ingenious-ways-snakes-manipulate-their-bodies-to-hunt-and-survive/