Myfyriwr: Manisha Dass
Goruchwyliwr: Dr Helen Pearson
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd
Math o Ganser: Canser y Prostad
Dyddiad dechrau a gorffen: Ionawr 18 – Ionawr 21
Canser y prostad yw’r canser sy’n achosi’r ail nifer fwyaf o farwolaethau sy’n gysylltiedig â chanser mewn dynion, ac mae’n gyfrifol am fwy na 300,00 o farwolaethau y flwyddyn drwy’r byd. Er y cyfraddau ymateb uchel i ADT (therapi amddifadiad androgen) mewn cleifion canser y prostad datblygedig, mae bron pob un yn datblygu canser CRPC yn y pen draw. Y brif driniaeth i ganser CRPC yw cemotherapi neu ADT, ond gwael iawn yw’r lefel goroesi. Mae hyn yn pwysleisio bod angen clinigol brys am ganfod strategaethau therapiwtig newydd i drin Canser y Prostad a CRPC.
Nod y prosiect PhD hwn yw darganfod y digwyddiadau genetig cydweithredol sy’n tanategu datblygiad CRPC cyflym, datblygu llwyfan ex-vivo newydd (profi samplau y tu allan i organeb) ar gyfer treialon rhag-glinigol ar ganser y prostad, a chanfod/profi targedau therapiwtig a biofarcwyr diagnostig newydd.
Yn y pen draw, bydd y gwaith yn darparu gwybodaeth hanfodol ar dargedu’r llwybr penodol mewn cleifion sydd â chanser y prostad, ac mae ganddo oblygiadau ar unwaith i ddyluniad treialon clinigol.