Myfyriwr: Richard Williams
Goruchwyliwr: Yr Athro Gary Higgs
Lleoliad: Prifysgol De Cymru
Math o Ganser: Pob un – Hygyrchedd daearyddol at driniaeth
Dyddiad dechrau a gorffen: Hydref 2016 – Medi 2019
Bydd yr ysgoloriaeth PhD yn adeiladu ar ymchwil a gyhoeddwyd eisoes, a adolygwyd gan gymheiriaid ac a gynhaliwyd yng Nghanolfan Ymchwil Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol yn y Gyfadran Gyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth i ddatblygu mesurau ardaloedd bach o fynediad daearyddol at amrywiaeth o wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys gofal iechyd sylfaenol ac eilaidd (Langford et al., 2016). Hyd yma, mae mesurau mynediad at wasanaethau iechyd, megis sgrinio, wedi tueddu i fod yn seiliedig ar fesurau cymharol simplistig o hygyrchedd, megis y pellter llinell syth agosaf at wasanaethau o’r fath neu niferoedd y cyfleusterau sydd ar gael o fewn ardal weinyddol benodol.
Bydd yr ymchwil arfaethedig yn mynd ati’n uniongyrchol i gyflawni prif nod Gofal Canser Tenovus sef cefnogi a galluogi triniaeth i gleifion canser a’u teuluoedd yn nes at gartref. Bydd yn gwneud hyn drwy ddatblygu offer ffynhonnell agored i edrych ar amrywiadau gofodol yn y ddarpariaeth gwasanaethau canser yng Nghymru. Bydd yr offer hefyd yn cynnwys nodweddion yr ochr gyflenwi (gan gynnwys y mathau o sgrinio sydd ar gael er enghraifft, a’r cyfleusterau ar safleoedd unigol) ynghyd â’r galw posibl ar wasanaethau (er enghraifft mewn perthynas â thueddiadau gofodol mewn achosion o ganser). Y nod yw darparu ffordd a allai fod yn fwy soffistigedig o fesur amrywiadau yn y ddarpariaeth ledled Cymru.