Datblygu dull generig o ddarparu therapïau ar gyfer triniaeth canser mewn modd detholus iawn

Emily MillsMyfyriwr: Emily Mills
Goruchwyliwr: Dr Yu-Hsuan Tsai
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd
Math o Ganser: Pob un – Darparu cyffuriau canser
Dyddiad dechrau a gorffen: Hydref 2017 – Medi 2020

Nid yw’r rhan fwyaf o gyffuriau canser yn ddetholus iawn, ac yn aml maen nhw’n achosi sgil-effeithiau niweidiol yn y corff. Felly, mae cemotherapi’n gallu bod yn brofiad annioddefol i gleifion. Rydyn ni’n bwriadu gwella’r canlyniadau canser a phrofiadau cleifion drwy ddatblygu dull sy’n caniatáu targedu therapiwteg mewn modd detholus i gelloedd canser yn unig ac nid i gelloedd normal, gan arwain at y sgil-effeithiau lleiaf a phrofiad gwell o driniaeth.

Byddwn ni hefyd yn datblygu gweithgareddau allgymorth ar ffurf cynhyrchiad theatr gyda Concert Theatre i roi pwyslais ar atal canser drwy ffordd o fyw iach. Byddwn ni’n gweithio gyda chymunedau ac yn mynd â’r cynhyrchiad ar daith yng Nghymru.

<< Yn ôl