Defnyddio diffygion atgyweirio DNA a ganfyddir mewn celloedd canser ar gyfer triniaeth gyda gwenwyn topoisomerase ac analogau niwcleosid

Myfyriwr: Martina Salerno
Goruchwyliwr: Dr Edgar Hartsuiker
Lleoliad: Prifysgol Bangor
Math o Ganser: Pob un
Dyddiad dechrau a gorffen: Tachwedd 17 – Tachwedd 20

Nod cyffredinol y prosiect yw gwella canlyniadau canser drwy ddefnyddio diffygion atgyweirio DNA sydd i’w cael yn aml mewn celloedd canser ar gyfer therapi. Yn benodol, byddant yn sgrinio ar gyfer, ac yn datblygu, atalydd newydd (genyn y mae ei bresenoldeb yn atal genyn arall rhag mynegi ei hun mewn lleoliad arall) y mae’r tîm wedi dangos o’r blaen ei fod yn bwysig ar gyfer ymwrthedd naturiol rhag dau grŵp o asiantau sy’n niweidio DNA ac sy’n bwysig yn glinigol.

Hefyd, bydd y genyn ataliol penodol yn cael ei ddefnyddio i ganfod rhyngweithiadau marwol synthetig posibl gyda mwtaniadau atgyweirio eraill neu atalyddion atgyweirio DNA mewn celloedd dynol.

Bydd rhai o ganlyniadau’r ymchwil hwn yn caniatáu teilwra’r dewis o asiantau niweidio DNA i ddiffygion atgyweirio penodol a ganfyddir mewn tiwmorau (meddyginiaeth bersonol) a defnyddio diffygion mewn llwybrau atgyweirio DNA gydag atalyddion moleciwlau bach (marwoldeb synthetig). Mae’r prosiect arfaethedig yn dwyn ynghyd arbenigedd ar ddylunio cyffuriau a mecanweithiau ymwrthedd i gyffuriau canser, ac mae ganddo’r posibilrwydd gwirioneddol o wella canlyniadau canser.

<< Yn ôl