Rheoli cemotherapi drwy’r geg gartref: astudiaeth achos archwiliadol o ymlyniad at driniaeth ymysg pobl sydd â chanser ac yn byw yng Nghymoedd De-Ddwyrain Cymru

Myfyriwr: I’w gadarnhau
Goruchwyliwr: Yr Athro Jane Hopkinson
Lleoliad: Prifysgol Caerdydd
Math o Ganser: Pob un – Cemotherapi
Dyddiad dechrau a gorffen: Hydref 17 – Hydref 20

Erbyn hyn, mae dros 25% o driniaeth ganser yn cael ei roi drwy ddefnyddio meddyginiaethau gwrth-ganser. Prin yw’r wybodaeth am reoli triniaeth canser gartref. Mae’n golygu bod angen gwybodaeth, sgil a hyder ar y person sydd â chanser, a gofalwr hefyd yn aml, wrth reoli meddyginiaethau. Mae’n bosibl i gamgymeriadau gyda meddyginiaethau ddigwydd. Rhaid i gleifion ddeall pwysigrwydd ymlyniad er mwyn cael y canlyniadau gorau i’r driniaeth a lleihau’r tocsiceddau. Yn ôl y dystiolaeth, mae’r lefelau isaf o ymlyniad i’w gael ymysg pobl hŷn, sy’n teimlo’n isel, sy’n teimlo eu bod yn cael llai o gymorth cymdeithasol, sydd â’r statws economaidd-gymdeithasol isaf a’r rhai sy’n cael sgil-effeithiau i driniaeth.

Ceir adroddiadau bod cleifion yn methu cymaint ag un rhan o dair o’r ddos a ragnodwyd iddynt. Efallai na fydd y triniaethau’n gweithio os nad ydyn nhw’n cael eu cymryd fel y rhagnodwyd. Gall ymlyniad gwael arwain at gostau gofal iechyd uwch os yw’r clefyd yn gwaethygu ac angen triniaethau ychwanegol.

Mae angen ymchwil i ddeall y ffactorau sy’n cael effaith gadarnhaol a negyddol ar ymlyniad.  Bydd yr astudiaeth hon yn astudiaeth achos archwiliadol yng Nghymoedd De-ddwyrain Cymru i gael gwybodaeth am ymlyniad at driniaeth canser drwy’r geg. Bydd yn canolbwyntio ar y ffactorau ymarferol, emosiynol a chymdeithasol sy’n gallu bod yn rhwystrau neu’n alluogwyr i ymlyniad at feddyginiaeth gartref. Y pwrpas yw creu argymhellion i gael gwelliannau mewn ymlyniad at feddyginiaethau ar bresgripsiwn i drin canser mewn lleoliadau difreintiedig, o gymharu ag mewn ardaloedd mwy cyfoethog. Effaith bosibl ymchwil o’r fath yw’r canlyniadau gwell o ran goroesi ac ansawdd byw, ac arbedion cysylltiedig o ran costau i’r GIG.

<< Yn ôl