Abraham Makanjuola, myfyriwr Meistr Ymchwil KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor, yn rhoi sgwrs fer am Bresgripsiwn Cymdeithasol. Enillodd Abraham y wobr ‘cyflwyniad gorau’ yng Nghynhadledd Ymchwilwyr Uchelgeisiol (ARC 2020) gyda’r sgwrs hon, a gynhaliwyd ar 4 Awst 2020.
Tag: Gofal Iechyd
Gwylio: Sgyrsiau gweminar Partneriaethau ar gyfer Cynaliadwyedd gan gyfranogwyr KESS 2
Ar 25 Mehefin 2020 cynhaliodd Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor weminar o’r enw “Partneriaethau ar gyfer Cynaliadwyedd” i gyd-fynd â Nod y Mis Rhif 17 y Cenhedloedd Unedig, “Partneriaethau ar gyfer y Nodau”. Ymhlith y siaradwyr ar gyfer y weminar roedd tri chyfranogwr KESS 2; Andrew Rogers, Jessica Hughes a John Barker, y gallwch wylio eu… Darllen mwy »
Beth Mansfield, myfyrwraig PhD KESS 2, yn cyrraedd rhestr fer Gwobr Ymchwilydd Gyrfa Gynnar y Flwyddyn BTS / BALR / BLF
Mae myfyrwraig PhD KESS 2 Beth Mansfield, o Brifysgol Caerdydd, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Ymchwilydd Gyrfa Gynnar y Flwyddyn BTS / BALR / BLF ar ôl cyflwyno ei chrynodeb yng Nghyfarfod Gaeaf Cymdeithas Thorasig Prydain (BTS) 2019. O’r 56 ymgais a gyflwynwyd, mae Beth wedi’i dewis fel un o 6 yn y rownd derfynol… Darllen mwy »
Cefnogaeth cymheiriaid yn helpu cynyddu effeithiau llesol gweithgareddau awyr agored
Disgrifiwyd y gogledd fel ‘Prifddinas Antur Ewrop’ ac mae eleni’n cael ei hyrwyddo fel #blwyddynyrawyragored #yearofoutdoors, mae anogaeth inni ddathlu’r mynyddoedd, yr arfordir a chefn gwlad ac i ymgolli yn harddwch naturiol y wlad a medi’r effeithiau llesol. Mae astudiaeth newydd a chyffrous o Brifysgol Bangor yn ystyried a yw’n bosib cynyddu’r manteision llesol… Darllen mwy »
Cyfranogwr KESS 2 Nicole Hughes yn cyhoeddi papur yn y cylchgrawn BMC Palliative Care
Mae Nicole Marie Hughes, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor, wedi llwyddo i gael cyhoeddi papur yng nghylchgrawn BMC Palliative Care. Bu Nicole yn gweithio ar y cyd â phedair hosbis yng Ngogledd Cymru; Hosbis yn y Cartref (Gwynedd ac Ynys Môn), Hosbis Dewi Sant (Llandudno), Hosbis St Kentigern (Llanelwy) a Thŷ’r Eos (Wrecsam)… Darllen mwy »
(English) E-cigarettes are good or bad depending on the study – so what’s the truth?
Erthygl Saesneg gan Sarah Mitchell, Ymgeisydd PhD ym Mhrifysgol Abertawe sydd yn cael ei hail gyhoeddi o’r gwreiddiol ar dudalen The Conversation ar ein tudalen Saesneg o dan drwydded Creative Commons. Mae The Conversation yn safle sy’n galluogi academyddion i ysgrifennu’n uniongyrchol er mwyn rhannu eu harbenigedd gyda’r cyhoedd. Darllenwch yr erthygl wreiddiol.
Dyfarnu MBE i bartneriaid cwmni KESS 2 hirsefydlog, a sefydlodd Halen Môn, yn rhestr Anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines
Dyfarnwyd anrhydedd MBE i David ac Alison Lea-Wilson, sylfaenwyr y busnes Halen Môn yng ngogledd Cymru, yn rhestr anrhydeddau Blwyddyn Newydd y Frenhines yn 2019 am eu gwaith yn cefnogi busnes a diwydiant yng Nghymru. Mae Halen Môn yn gwmni halen môr artisan byd-enwog gyda statws Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO), sydd wedi ei leoli ar… Darllen mwy »
Cyfranogwr KESS 2, Sebastian Haigh, yn cyhoeddi papur yn y cylchgrawn effaith uchel IEEE TRANSACTIONS
Mae myfyriwr PhD Prifysgol De Cymru wedi datblygu algorithm newydd sydd â’r potensial i newid y ffordd y caiff cleifion sydd â chyflyrau niwrogyhyrolgerbydol difrifol eu hasesu a’u trin. Ar hyn o bryd, yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae Sebastian Haigh yn ail flwyddyn o’i ysgoloriaeth wedi’i ariannu… Darllen mwy »
“The Toddlers who took on Dementia”: Prosiect MRes KESS 2 ar raglen ddogfen BBC Cymru
Rhaglen ddogfen gan BBC Cymru yw “The Toddlers who Took on Dementia”. Mae’n dilyn tri diwrnod o weithgareddau a drefnwyd i geisio archwilio’r hyn sy’n digwydd pan fydd plant meithrin a phobl sy’n byw gyda Dementia’n dod ynghyd. Bu Seicolegwyr o Brifysgol Bangor yn gweithio gyda Chwmni Teledu Darlun i greu gweithgareddau sy’n rhoi diddordebau’r… Darllen mwy »
Galwad am bobl i gymryd rhan mewn prosiect sydd wedi cael cyllid drwy KESS 2 sy’n cyfuno gofal dementia â thechnoleg clyfar
Mae Steve Williams, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol De Cymru yn chwilio am bobl i ateb holiadur fel rhan o’r prosiect ymchwil Smart.Dementia.Wales. Gyda chefnogaeth Cronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF) drwy KESS 2, mae Smart.Dementia.Wales yn brosiect ymchwil sydd wedi cael ei ysgogi gan bosibilrwydd darparu cyfnod hirach o annibyniaeth ac ansawdd bywyd gwell i’r rheini sy’n byw… Darllen mwy »








