Tag: Cynaliadwyedd

Buddion mwy o orchudd coed ar wasanaethau ecosystem ucheldiroedd Cymru: Ail bapur cyfranogwr KESS 2, Ashley Hardaker, a gyhoeddwyd yn ‘Ecosystem Services’

Mae myfyriwr PhD KESS 2 Prifysgol Bangor, Ashley Hardaker, a basiodd ei viva PhD yn ddiweddar, wedi cyhoeddi ail bapur o’i PhD yn y cyfnodolyn Ecosystem Services (Factor Effaith 6.33). Mae’r papur hwn yn gwerthuso canlyniadau posibl ystod o ddulliau arbed tir a rhannu tir i gynyddu gorchudd coed ar werth economaidd gwasanaethau ecosystem a… Darllen mwy »

Cyfansoddion organig anweddol yn caniatáu gwahaniaethu sensitif o ran ansawdd pridd biolegol: Rob Brown, cyfranogwr KESS 2, yn cyhoeddi ei bapur cyntaf yn y cyfnodolyn ‘Soil Biology and Biochemistry’.

Soil

Mae myfyriwr PhD KESS 2 o Brifysgol Bangor, Rob Brown, wedi cyhoeddi’r papur cyntaf o’i PhD yn y cyfnodolyn ‘Soil Biology and Biochemistry’. Mae papur Rob yn cymharu sensitifrwydd cyfansoddion organig anweddol (VOCs) â mesur safonol o gymuned ficrobaidd y pridd; proffilio asid brasterog ffosffolipid (PLFA). Fel yr eglurwyd yn astudiaeth achos ddiweddar Rob, mae… Darllen mwy »

Gweminar Hybu Cig Cymru (HCC) : Ymchwilio Ffermio Cynaliadwy yng Nghymru

Yn 2019 daeth y DU y wlad gyntaf i ddeddfu targed net sero o allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050. Mae amaethyddiaeth yn cyfrif am oddeutu 10% o gyfanswm allyriadau nwyon tŷ gwydr y DU felly mae’r sector o dan bwysau sylweddol i ostwng y ffigwr hwn. Ar 22 Chwefror, cynhaliodd partner cwmni KESS 2,… Darllen mwy »

Ymchwil gydweithredol drwy KESS 2 yn dod â chanmoliaeth uchel i Brifysgol Bangor gan bartner cwmni

Mewn astudiaeth achos ddiweddar gan KESS 2, siaradodd Carlo Kupfernagel, ymgeisydd PhD o Brifysgol Bangor, a’i oruchwyliwr cwmni Dr Andy Pitman o gwmni coed Lignia am y manteision niferus o ymchwil gydweithredol rhwng busnes a’r byd academaidd. Dywedodd Andy, Cyfarwyddwr Technegol yn Lignia a chyn-fyfyriwr o Brifysgol Bangor, “Roedd grant KESS 2 yn gyfle gwych… Darllen mwy »

Lucia Watts yn cymryd rhan yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Ecolegol Prydain

Gwahoddwyd myfyriwr PhD KESS 2, Lucia Watts o Brifysgol Bangor, i gymryd rhan yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Ecolegol Prydain ar 14eg – 18fed Rhagfyr a gynhaliwyd ar-lein. Teitl prosiect Lucia, sydd wedi ei bartneru gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yw “Bregusrwydd ac addasu hinsawdd ar raddfeydd lluosog” ac mae ei hymchwil yn ymchwilio i effeithiau tebygol posibl… Darllen mwy »

Gwylio: Sgyrsiau gweminar Diwydiant, Arloesi a Seilwaith gan gyfranogwyr KESS 2

Ar 30 Gorffennaf 2020, cynhaliodd Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor weminar yn canolbwyntio ar Ddiwydiant, Arloesi a Seilwaith, gan gysylltu â “Nod y Mis” y Cenhedloedd Unedig. Ymhlith y siaradwyr ar gyfer y weminar roedd tri chyfranogwr KESS 2; Shannan Southwood-Samuel, Nisha Rawandaran a Jennifer Langer – gallwch chi wylio ei sgyrsiau byr eto isod. Mae… Darllen mwy »

Gweminarau Cynaliadwyedd 2020

Gan nad ydym yn gallu cynnig Gweithdai Cynaliadwyedd KESS 2 wyneb yn wyneb ar hyn o bryd rydym wedi eu haddasu i’w rhedeg fel gweminarau. Am fanylion llawn sut i ymuno a gweminar, ewch i: https://kess2.ac.uk/cy/sustainability/workshops/

Uchafbwynt 2019 : Digwyddiad Blynyddol Gwobrau KESS 2

Annual Event 2019

Ar ddydd Mawrth, 10 Medi 2019, cynhaliwyd y drydydd Digwyddiad Blynyddol Gwobrau KESS 2 yn y Celtic Manor yng Nghaerleon, Casnewydd. Gyda cyflwyniadau 3 munud gan ein cyfranogion KESS 2 a KESS 2 Dwyrain, roedd y noson unwaith eto yn lwyfan i’r ymchwilwyr yma o ledled Cymru gystadlu am gyfle i ennill hyd at ddau… Darllen mwy »