Cyfleoedd Partneriaeth gyda Gofal Canser Tenovus trwy KESS 2: Galwad Nawr ar Agor

Research at Tenovus

Mae Gofal Canser Tenovus yn gwahodd mynegiadau o ddiddordeb i bartneriaethau prosiect KESS 2 gyda dyddiad cau o ddydd Llun 26 Chwefror, 2018.

Mae Gofal Canser Tenovus yn bartner cwmni cymwys KESS 2 ac maent wedi cyd-weithio ar bymtheg o efrydiaethau KESS yn ystod y prosiect KESS blaenorol. Ar gyfer KESS 2, mae Gofal Canser Tenovus yn awyddus i fod yn bartner gweithredol gyda efrydiaethau, a bydd yn rhoi blaenoriaeth i brosiectau a fydd yn eu helpu i gwrdd â’u nodau elusen a chefnogi eu gwaith.

Drwy gydol y cyfnod cyflwyno, bydd Gofal Canser Tenovus yn ystyried mynegiant o ddiddordeb gan bartneriaid academaidd posibl ledled Cymru.

Sut i wneud cais:

I gwrdd â dyddiad cau KESS 2 yn y gwanwyn, ar gyfer prosiectau sy’n dechrau ym mis Hydref 2018, byddai Gofal Canser Tenovus yn hoffi gwahodd mynegiadau o ddiddordeb erbyn dydd Llun 26ain Chwefror, gyda phenderfyniadau yn cael eu gwneud ym mis Ebrill. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a ffurflen mynegiant o ddiddordeb ar eu gwefan.

CEISIWCH NAWR

Unwaith y bydd Gofal Canser Tenovus wedi rhoi ymrwymiad partner, cyfrifoldeb y partner academaidd yw gwneud cais i raglen KESS 2 trwy eu prifysgol leol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt ar gyfer timau KESS 2 ar draws yr holl brifysgolion partner yma.

Os oes gennych syniad am brosiect gyda Gofal Canser Tenovus yr hoffech ei drafod, ffoniwch 029 2076 8787 neu e-bostiwch research@tenovuscancercare.org.uk.

Darllenwch astudiaethau achos prosiectau Gofal Canser Tenovus a KESS 2 yma