Myfyriwr: Zoe Cooke
Goruchwyliwr: Dr Ceri Phelps
Lleoliad: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Math o Ganser: Pob un
Dyddiad dechrau a gorffen: Chwefror 18 – Chwefror 21
Nod cyffredinol cyntaf yr ysgoloriaeth PhD hon yw canfod, mesur a mapio canlyniadau gwerthuso craidd ar gyfer mentrau canser seicogymdeithasol. Yr ail nod yw datblygu a gwerthuso defnyddioldeb cronfa ddata gyfrifiadurol bwrpasol i roi rhyngwyneb hawdd ei ddefnyddio nad oes angen gwybodaeth na sgiliau arbenigol i’w lywio. Felly, y cwestiwn ymchwil penodol sydd dan sylw drwy’r prosiect yw:
Beth yw’r ffordd orau i ni greu cronfa ddata ganlyniadau sy’n hawdd i’w defnyddio ac a fydd yn galluogi Gofal Canser Tenovus a sefydliadau eraill i fynd ati’n drwyadl i werthuso effeithiolrwydd cymharol a chynaliadwyedd posibl y gofal canser seicogymdeithasol a’r mentrau ataliol sydd wedi’u cynllunio i wella gofal i bobl y mae canser yn effeithio arnynt ledled Cymru.