Mae Rebecca Peters yn fyfyriwr ymchwil yn Ysgol Cyfrifiadureg a Mathemateg Prifysgol De Cymru. Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei Doethuriaeth dan raglen KESS 2 sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop ym maes Dadansoddeg Data Mawr.
A hithau’n gweithio yn Tata Steel ym Mhort Talbot, mae Rebecca yn defnyddio’i diddordeb brwd yn y defnydd sy’n cael ei wneud o Wyddor Data yn y byd go iawn, ac yn archwilio’i thechnegau amrywiol yn y diwydiant cynhyrchu dur.
Mae ei doethuriaeth yn edrych ar y system castio barhaus mae Tata yn ei defnyddio yn y broses gwneud dur, lle mae dur tawdd yn cael ei soledu hyd at ffurf ‘rhannol-orffenedig’ ar gyfer ei orffen yn ddiweddarach.
Mae Rebecca yn astudio’r data cymhleth sy’n cael ei greu yn ystod y broses hon, a sut mae’n effeithio ar hyn o bryd ar gynhyrchiant peiriannau castio Tata.
“Fy nod ydy datblygu offer rhagfynegi i benderfynu pryd y dylai peiriant castio gael ei ddiffodd i wneud gwaith cynnal a chadw arno” meddai Rebecca, a gafodd radd BSc (Anrh.) mewn Mathemateg ym Mhrifysgol De Cymru cyn hyn.
“Y nod ydy defnyddio’r offer hwn i alluogi Tata i wella’i gynhyrchiant drwy leihau eu hamseroedd cau-i-lawr annisgwyl, a thrwy hynny leihau’r costau cysylltiedig.”
Mae Rebecca yn defnyddio’r offer Data Mawr diweddaraf i ganfod perthnasoedd a phatrymau sylfaenol yn y data, gan weithio hefyd i ddatblygu technegau newydd gan ddefnyddio rhaglenni newydd.
Ychwanegodd: “Dwi wedi wynebu rhai heriau ar y ffordd, yn bennaf wrth ddod i arfer â’r prosesau a’r cyfarpar sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant gwneud dur, a dysgu sut i weithio gyda’r meddalwedd arbenigol a ddefnyddir gan Tata i ddadansoddi data.
“Mae arian KESS 2 wedi bod yn wych. Mae’n darparu rhwydwaith cymorth ffantastig ac mae’n darparu llawer o gyfleoedd cyffrous na fyddwn wedi’u cael mae’n debyg petawn yn gwneud fy noethuriaeth ar fy mhen fy hun.
“Mae cael Tata Steel fel cwmni partner yn wych hefyd. Dwi’n cael gweithio gyda data go iawn a chyfrannu at rywbeth a fydd yn cael effaith go iawn gobeithio.”
Mae’r Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.