JOHN BARKER
SAFBWYNT MYFYRIWR
Yn hanesyddol mae gan Gymru lefelau isel o arloesi a thwf busnes i’w gymharu â Phrydain. Gydag effaith Covid-19 a Brexit, fe welwn leihad yng ngwariant defnyddwyr, llai fyth o gynhyrchu, a mwy o golli swyddi fydd yn ei gwneud yn hanfodol bod busnesau Cymru’n arloesi ar raddfa eang.
Mae fy nhraethawd ymchwil PhD, “Datblygu arloesedd busnes mewn rhanbarth sydd wedi’i herio’n economaidd: Astudiaeth o Fusnesau o Ganolig eu maint yng Nghymru”, yn canolbwyntio ar ddeall sut a pham bod busnesau yng Nghymru’n arloesi, a beth sy’n eu rhwystro neu’n eu galluogi i arloesi’n bellach? Bydd canlyniadau’r astudiaeth o gymorth i dargedu polisi ac ariannu’n well, a rhwystro’r tsunami economaidd cynyddol hwn.
Er mwyn archwilio ‘mhellach i arsylwi ar gyfryngwyr arloesol yng Nghymru, cychwynnais drwy ddefnyddio dull, ar flaen y gad, o gynnwys data o system negeseua Slack y cwmni, ynghyd ag arsylwi ar gyfarfodydd, trafodaethau a’r broses o wneud penderfyniadau. Yna, er mwyn cael y canlyniadau mwyaf cynhwysfawr bosib, defnyddiais y cipolwg cychwynnol hwnnw i gyfweld Prif Weithredwyr, Cyfarwyddwyr a Rheolwyr Arloesi ledled Cymru.
Bu cydweithio â’r partner diwydiannol Simply Do Ideas o fudd i’r canlyniadau. Gan Simply Do Ideas cefais fynediad breintiedig i gysylltiadau ac arferion newydd sbon danlli, ynghyd â chefnogaeth a mentora drwy waith ymchwil a datblygiad proffesiynol ymarferwyr mwyaf blaenllaw’r maes. Buaswn yn argymell i fyfyrwyr eraill gymryd rhan yn KESS2 gan fod y cyfuniad o’r cyfle i ymarfer, hyfforddi a datblygu’n arweinwyr blaengar yn eu maes yn un anorchfygol.
SAFBWYNT Y CWMNI
Platfform digidol, yn y cwmwl, yw Simply Do Ideas, sy’n rhoi grym i sefydliadau wrth sicrhau gwelliant busnes, yn seiliedig ar sialensiau. Eu diben yw lleihau’r amser, y gost a’r risg o arloesi. Meddai Lee Sharma, Swyddog Prif Weithredwr Simply Do Ideas,
“Roedd John yn fyfyriwr tan gamp, oedd wastad yn awyddus i gynnal ac ymestyn ei hun tu hwnt i’r galw i helpu Simply Do Ideas hynny y gallai. Gwnaeth ei agwedd a’i ddulliau gymaint o argraff arnom ni, ddaru ni, ychydig wedi iddo gychwyn ei PhD, ei gyflogi’n rhan amser. Ers hynny mae wedi cyflawni cytundebau gyda Rolls-Royce a Gwasanaeth Ambiwlans Swydd Efrog. Mae John hefyd wedi helpu codi proffeil Simply Do Ideas drwy ymchwil newydd ac annerch cynadleddau niferus, yn genedlaethol a rhyngwladol, gan greu cysylltiadau newydd a chyflwyno ein busnes i’r byd fel arweinwyr ym maes meddalwedd rheolaeth arloesi.”
EFFAITH
Mae darganfyddiadau’r ymchwil hwn wedi taflu golau newydd ar y maes gan gyfrannu at y drafodaeth ar gymhwysedd ariannu arloesedd yng Nghymru. Yn bennaf mae’n amlygu’r angen i ariannu mwy ar brosesu arloesedd yn ogystal â mesur llwyddiant arloesi drwy enillion ariannol mewnol, yn hytrach na mesurau fel gwarchod a chreu swyddi. Mae’r ymchwil yn agor cil y drws ar pam nad oes mwy o fusnesau yng Nghymru yn arloesi oherwydd materion ffydd, cost a gwarchod eiddo deallusol.
UCHAFBWYNTIAU JOHN
Yn ystod y cwrs PhD KESS2, bu sawl uchafbwynt fel cyflwyno fy ngwaith yn Ffrainc, Gwlad Roeg a’r Unol Daleithiau. Cefais y fraint o fynychu Ysgol Raddedig KESS yng nghanolbarth Cymru a’r Institute of Small Business and Entrepreneurship Writer’s Retreat yn Iwerddon.
Mae fy ngwaith proffesiynol gyda’r cwmni wedi rhoi’r cyfle i mi weithio ar brosiectau arloesi agored gyda brandiau byd eang fel Rolls-Royce a’r Gwasanaeth Iechyd. Rwyf hefyd wedi cael y cyfle, drwy Enterprise Educators UK i fod yn Brif Archwiliwr prosiect a ariennir yn genedlaethol, ac yn ddiweddar enillais y Best Paper Award yng nghynhadledd Advances in Management and Innovation 2020.
CYHOEDDIADAU
Barker, J., Clifton, N. and Loudon, G. (2020) Perspectives on innovation within medium-sized firms in Wales. Welsh Economic Review, 27, pp.6–17. DOI: http://doi.org/10.18573/wer.253
Barker, J, Clifton, N and Loudon, G. (2019) Differences between Further and Higher Education Enterprise Education in South Wales. European Conference on Innovation and Entrepreneurship 2019 Conference Proceedings. [Working paper] DOI: http://doi.org/10.34190/ECIE.19249
Barker, J, Clifton, N and Loudon, G. (2019) Innovation, Influence, and a Deck of Cards: Exploring an innovation intermediary through Human-Centred Design. European Regional Science Association 2019 Conference Proceedings [Working paper]
Barker, J and Fowles-Sweet, W. (2018) Widening Participation and Social Mobility: Encompassing and Integrating Learning Opportunities. Journal of Widening Participation and Lifelong Learning. Volume 20, Number 2, pp.69-95. https://doi.org/10.5456/WPLL.20.2.69
Barker, J, Clifton, N and Loudon, G. (2018) Opening Innovation Doors through Digital Platforms: Ethnographic Insights. Institute of Small Business and Entrepreneurship 2018 Conference Proceedings. [Working paper] ISBN: 978-1-900862- 31-8
Menter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru yw Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2). Mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Am ragor o wybodaeth am sut y gallai eich sefydliad elwa o gymryd rhan yn KESS 2, cysylltwch â thîm canolog KESS 2 ym Mangor ar: kess2@bangor.ac.uk
Erthyglau cysylltiedig:
Gwylio: Sgyrsiau gweminar Partneriaethau ar gyfer Cynaliadwyedd gan gyfranogwyr KESS 2 (22/07/2020)