Deall rôl gwrth/pro tiwmorigenig INF-Y mewn canser y coluddyn

Myfyriwr: Chris Towers, Prifysgol Caerdydd
Partner Cwmni: Tenovus
Goruchwyliwr Academaidd: Dr Lee Parry


Safbwynt Myfyriwr

gan Chris Towers, Prifysgol Caerdydd

Y Prosiect

Mae fy mhrosiect KESS yn ystyried rôl molecwl o’r enw gama interfferon yn y system imiwnedd, ac rwy’n ceisio gweld p’un ai a yw’n cael effaith gadarnhaol ynteu effaith negyddol ar ganser colorectal.

Mae fy mhrosiect yn bwysig gan mai canser colorectal yw’r ail ganser mwyaf difrifol o ran marwolaethau ac o ganlyniad mae’n hynod o bwysig dod o hyd i ffordd o leddfu’r dioddefaint a achosir gan yr afiechyd hwn. Byddai’n wych petai fy ngwaith ymchwil i’n gallu helpu pobl sy’n dioddef o’r afiechyd hwn.

Datblygiad Personol

Gyda diolch i elfen sgiliau’r prosiect KESS rwyf wedi cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi ar reoli prosiectau ac amser, rwyf hefyd wedi mynd i weithdai ar sut mae cynllunio prosiect a’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohonof fel gwyddonydd. Yn ogystal â hyn, rwyf wedi bod yn edrych ar dechnolegau newydd a fydd yn fy helpu gyda fy ymchwil.

KESS

Yn wreiddiol roedd cost y radd Meistr Ymchwil yn codi ofn arnaf, nid dim ond cost y cwrs ond y costau byw ychwanegol y byddai’n rhaid i mi fod wedi’u talu wrth astudio. Mae KESS wedi ysgwyddo’r baich hwn ac rwyf wedi gallu canolbwyntio ar fy ymchwil. Mae hefyd wedi bod yn brofiad da bod yn rhan o KESS gan fy mod wedi cael cyfle i gwrdd ag ysgolheigion eraill KESS. Mae wedi bod yn braf iawn cael rhannu ein profiadau.

Uchafbwynt

Yr uchafbwynt i mi hyd yma yw’r broses o ddechrau casglu’r data. Roedd y wybodaeth a oedd yn dod i law yn gymysg iawn felly roedd yn fuddiol gallu defnyddio’r sgiliau roeddwn wedi’u dysgu o ran trefnu’r data a gweld bod rhywbeth yn digwydd. Roedd yn deimlad cyffrous iawn.