Mae Rhiannon Chalmers-Brown wedi dychwelyd i astudio ar gyfer ei Doethuriaeth ym Mhrifysgol De Cymru, ar ôl cael BSc mewn Cemeg yn y coleg hwnnw.
Cafodd ei hannog gan ei goruchwyliwr ymchwil, Richard Dinsdale, i wneud cais am yr ysgoloriaeth KESS 2, gan fod ganddi ddiddordeb brwd mewn ynni adnewyddadwy a’r sector amgylcheddol yn gyffredinol.
Dechreuodd Rhiannon ar ei phrosiect, Biorefining of Waste Gases from Steel Manufacture, ym mis Ionawr 2017 ac yn gobeithio cwblhau ei doethuriaeth (PhD) yn 2019.
Mae Rhiannon yn gweithio yn ffatri Tata Steel ym Mhort Talbot. Ei nod yw troi’r nwyon gwastraff sy’n cael eu cynhyrchu yn ystod y broses cynhyrchu dur yn gynnyrch defnyddiol.
Gofynnodd Tata Steel i Rhiannon ganfod ffordd o helpu i leihau eu hallyriadau.
Meddai: “Mae cynhyrchu dur yn creu llawer o nwy gwastraff sy’n cael ei ryddhau i’r atmosffer ar ffurf carbon deuocsid a charbon monocsid, ac felly’n cyfrannu at gynhesu byd-eang.
“Ein nod yw defnyddio technoleg bioburo i greu cynnyrch defnyddiol o’r nwyon gwastraff. Drwy wneud hyn byddwn yn dal y carbon yn hytrach na dim ond ei ryddhau.
Mae Rhiannon wedi adeiladu adweithydd ar gyfer y prosiect, gan ddysgu sut i ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol arbenigol yn ogystal â chromatograffi nwy i wirio lefelau’r nwyon mae’n ei gynhyrchu.
Cam nesaf ei hymchwil fydd cael yr adweithydd i gynhyrchu asid asetig, cyn optimeiddio’r broses.
“Byddwn yn sicr yn annog rhagor o fyfyrwyr ymchwil i wneud cais am arian KESS,” ychwanegodd.
“Mae wedi bod o gymorth mawr er mwyn i mi allu cynnal yr ymchwil hwn, a gobeithio y gallaf wneud gwahaniaeth go iawn i’r ffordd y mae nwyon gwastraff o’r diwydiant dur yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n fwy cyfeillgar i’r amgylchedd.”
Mae’r Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.