Cefnogi pobl sydd â niwed i’r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol

Rob Heirene

Ar hyn o bryd, mae Rob Heirene yn gweithio tuag at Ddoethuriaeth KESS 2 sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, a hynny ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’n gwneud gwaith ymchwil sy’n edrych ar sut y gellid gofalu am bobl sydd â niwed i’r ymennydd yn gysylltiedig ag alcohol mewn tai â chymorth.

Mae ei sefydliad partner, Solas Cymru, yn elusen yng Nghasnewydd sy’n darparu gwasanaethau amrywiol i bobl sy’n fregus, yn ddigartref neu mewn perygl o ddod yn ddigartref. Maen nhw hefyd yn cefnogi pobl sy’n gwella ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau neu alcohol.

Gofynnodd Solas Cymru i Rob am gymorth i ddatblygu prosiect ‘tai â chymorth’ peilot i bobl sydd wedi cael diagnosis o niwed i’r ymennydd, neu’n dangos arwyddion o niwed i’r ymennydd, yn sgil camddefnydd cronig o alcohol.

Nod ei ymchwil yw darparu sylfaen dystiolaeth i Solas Cymru i sefydlu’r gwasanaeth arbenigol hwn, gan helpu i gadarnhau haeriadau anecdotaidd bod angen yr amgylchedd gofal pwrpasol y maent yn awyddus i’w sefydlu.

“Mae’r grŵp cleientiaid penodol hwn yn wynebu nifer o heriau o ran cael gafael ar ofal a darparu gofal ar eu cyfer,” meddai Rob, sydd yn flaenorol wedi astudio ar gyfer Gradd Meistr mewn Seicoleg Glinigol ac Abnormal ym Mhrifysgol De Cymru.

“Maent yn tueddu i fynd ar goll yn system y GIG, gan fod y cyflwr yn aml yn cael ei fethu neu bod diagnosis anghywir fel dementia yn cael ei roi. Neu efallai nad ydynt yn gallu cael gafael ar y gofal arbenigol maent ei angen oherwydd eu bod yn cael eu trosglwyddo o un gwasanaeth i’r llall.

“Oherwydd eu hanghenion cymhleth, gall eu hymddygiad fod yn heriol. Yn aml maent yn ymosodol ac anystyriol. Gall hyn eu hynysu’n gymdeithasol ac, yn y pen draw, arwain atynt yn cymryd mwy o sylweddau.

Mae Rob wedi siarad â 40 o wasanaethau gwahanol sy’n cefnogi pobl sy’n gaeth i sylweddau – o weithwyr cymdeithasol i dimau iechyd meddwl – i ganfod sut ofal mae’r bobl hyn yn ei gael ar hyn o bryd, a pha rwystrau sy’n wynebu gwasanaethau gwahanol.

Yn ystod cam nesaf ei ymchwil, bydd yn edrych ar sut y gallai’r model preswyl weithio, gan ymgorffori adnoddau amrywiol ar gyfer adsefydlu niwro-wybyddol, a chyflogi staff arbenigol i ddarparu cymorth penodol ar sail y cyflwr i’r cleifion.

“Mae’r grŵp cleientiaid hwn yn rhoi straen mawr ar y GIG ar hyn o bryd,” ychwanegodd Rob.

“Os bydd mwy o wasanaethau proffesiynol yn ymwybodol o’u cyflwr ac felly’n gallu’u helpu’n gynt, gellid gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau.”


Mae’r Ysgoloriaeth Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2) yn fenter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan a arweinir gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru. Fe’i cyllidir yn rhannol gan raglen cydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd (ESF) ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd.