Daearyddiaeth lle o ran cyfranogiad tenantiaid yn y sector cymdeithasau tai: Astudiaeth achos o Ferthyr Tudful, Cymru

Tom Lambourne

Ar hyn o bryd mae Tom Lambourne ar flwyddyn olaf ei PhD KESS 2  mewn Daearyddiaeth Ddynol sy’n cael ei ariannu gan ESF ym Mhrifysgol De Cymru, ac mae wedi bod yn cynnal ymchwil i gyfranogiad tenantiaid yn sector  cymdeithasau tai Cymru.

Y partner sefydliad yw Cymdeithas Tai Merthyr Tudful (MTHA), sydd wedi’i lleoli ym Merthyr Tudful. Cymdeithas ganolig ei maint yw hon, gyda rhyw 1000 o unedau ar draws y fwrdeistref. Mae’n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau tai, lles a chymuned i’w thenantiaid ac i’r boblogaeth gyfagos.

Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar ddarpariaeth cyfranogiad cymunedol y sefydliad, gan archwilio’r effeithiau daearyddol a sialensiau’r broses. Mae’n gwneud hynny drwy weithio gyda’r Gymdeithas, ei phartneriaid a’i thenantiaid.

Medd Tom: “Mae’r prosiect hwn wedi rhoi boddhad mawr i mi. Rwy wedi mwynhau gweithio gyda’r tenantiaid a’r Gymdeithas yn fawr – maen nhw i gyd wedi bod yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r prosiect KESS a datblygu’r ymchwil hwn er budd y tenantiaid.”

Roedd pecyn yr ysgoloriaeth KESS 2 yn cynnwys cyflog hael, yn ogystal â chostau Tom ar offer TG, hyfforddiant, digwyddiadau, teithio a deunyddiau traul. Caiff ffioedd PhD eu hepgor i bob myfyriwr KESS 2.

Mae rhaglen KESS 2 hefyd wedi galluogi Tom i gymryd rhan mewn nifer o gynadleddau daearyddiaeth a diwydiant rhyngwladol, yn New Orleans, Washington DC a’r Eidal, i rannu’r arferion gorau gydag academyddion a chydag ymarferwyr ym maes cyfranogiad cymunedol a chyfranogiad tenantiaid.

“Mae rhaglen KESS wedi rhoi llwybr mynediad gwych i ymchwil academaidd imi, ac wedi fy siapio i yn bersonol ac yn broffesiynol ar gyfer y dyfodol. Mae’r cysylltiadau rydw i wedi’u sefydlu gyda Tai Merthyr a’r cymunedau cyfagos yn ne Cymru yn sicr yn rhywbeth yr wyf am adeiladu arno wrth symud ymlaen.”

Beth yw KESS 2

Cynllun sgiliau lefel uwch yn gweithredu ar draws Cymru gyfan, yn cael ei arwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru, yw Ysgoloriaethau Sgiliau Economi Gwybodaeth (KESS 2). Caiff ei ariannu’n rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru i Orllewin Cymru a’r Cymoedd.

Prifysgol De Cymru a KESS 2

I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallai’ch sefydliad chi elwa o gymryd rhan yn KESS 2, cysylltwch â thîm KESS Prifysgol De Cymru ar 01443 482567 neu anfonwch ebost at kess@southwales.ac.uk

Mae tîm KESS Prifysgol De Cymru wedi’i leoli yn y Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi, rhan o Ymchwil ac Ymgysylltu â Busnes. Mae’r  Gwasanaethau Ymchwil ac Arloesi yn dîm penodedig sy’n darparu cymorth arbenigol ar gyfer Seilwaith Ymchwil; Cymorth Ymchwil Ôl-radd; Effaith Ymchwil; a Chynhyrchu Incwm. http://research.southwales.ac.uk/