Llongyfarchiadau i Dr Ewan Hoyle, myfyriwr PhD KESS 2 ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant sydd wedi amddiffyn yn llwyddiannus ei draethawd ymchwil o dan y teitl “Delweddu Uwchsain Agorfa Ffynhonnell Rithwir ar gyfer Profion Anninistriol” a bellach mae’n Arweinydd Prosiect yng Nghanolfan Dechnoleg TWI (Cymru), ym Mhort Talbot. Ymunodd Ewan â TWI Ltd… Darllen mwy »
Categori: Newyddion
Dyfed Rhys Morgan, cyfranogwr KESS 2, yn siarad am ei waith ymchwil ar Radio Cymru
Ar Ddydd Gwener 11 Medi 2020 fe gafwyd Dyfed Rhys Morgan, un o fyfyrwyr KESS 2 o Brifysgol Bangor, gyfweliad gyda Aled Hughes ar Radio Cymru ynglŷn a’i waith ymchwil gyda bragdai bach yng Nghymru. Mae modd gwrando eto ar y sgwrs trwy ddilyn y linc yma (cychwyn o 1 awr 14 munud). https://www.bbc.co.uk/sounds/play/m000mdgb Gallwch… Darllen mwy »
Gwyliwch: Cyflwyniad arobryn myfyriwr KESS 2 MRes, Abraham Makanjuola ar gyfer ARC 2020
Abraham Makanjuola, myfyriwr Meistr Ymchwil KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor, yn rhoi sgwrs fer am Bresgripsiwn Cymdeithasol. Enillodd Abraham y wobr ‘cyflwyniad gorau’ yng Nghynhadledd Ymchwilwyr Uchelgeisiol (ARC 2020) gyda’r sgwrs hon, a gynhaliwyd ar 4 Awst 2020.
Gwylio: Sgyrsiau gweminar Diwydiant, Arloesi a Seilwaith gan gyfranogwyr KESS 2
Ar 30 Gorffennaf 2020, cynhaliodd Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor weminar yn canolbwyntio ar Ddiwydiant, Arloesi a Seilwaith, gan gysylltu â “Nod y Mis” y Cenhedloedd Unedig. Ymhlith y siaradwyr ar gyfer y weminar roedd tri chyfranogwr KESS 2; Shannan Southwood-Samuel, Nisha Rawandaran a Jennifer Langer – gallwch chi wylio ei sgyrsiau byr eto isod. Mae… Darllen mwy »
Gwylio: Sgyrsiau gweminar Partneriaethau ar gyfer Cynaliadwyedd gan gyfranogwyr KESS 2
Ar 25 Mehefin 2020 cynhaliodd Lab Cynaliadwyedd Prifysgol Bangor weminar o’r enw “Partneriaethau ar gyfer Cynaliadwyedd” i gyd-fynd â Nod y Mis Rhif 17 y Cenhedloedd Unedig, “Partneriaethau ar gyfer y Nodau”. Ymhlith y siaradwyr ar gyfer y weminar roedd tri chyfranogwr KESS 2; Andrew Rogers, Jessica Hughes a John Barker, y gallwch wylio eu… Darllen mwy »
Gwerth economaidd gwasanaethau ecosystem o ucheldiroedd Cymru: Ashley Hardaker myfyriwr ar raglen KESS 2 yn cyhoeddi papur mewn cyfnodolyn rhyngwladol ‘Ecosystems Services’
Yn ddiweddar cyhoeddodd Ashley Hardaker myfyriwr PhD ar raglen KESS 2 ei bapur cyntaf o’i PhD yn y cyfnodolyn Ecosystem Services (Impact Factor 5.572). Ar hyn o bryd mae Ashley yn nhrydedd flwyddyn ei ysgoloriaeth a ariennir gan KESS 2 gan weithio ar y cyd â Choed Cymru CYF ac mae ei bapur yn amcangyfrif… Darllen mwy »
Goleuni newydd ar bydredd calon derw
Yr haf hwn cychwynnwyd gwaith ymchwil mewn maes na wyddwn fawr amdano – pydredd calon derw. Dan y fenter Action Oak mae’r mycolegydd Richard Wright wedi cychwyn ar brosiect ymchwil KESS 2 PhD tair blynedd a hanner. Cefnogir y fenter gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF), dan oruchwyliaeth yr Athro Lynne Boddy o Brifysgol Caerdydd, … Darllen mwy »
Uchafbwynt 2019 : Digwyddiad Blynyddol Gwobrau KESS 2
Ar ddydd Mawrth, 10 Medi 2019, cynhaliwyd y drydydd Digwyddiad Blynyddol Gwobrau KESS 2 yn y Celtic Manor yng Nghaerleon, Casnewydd. Gyda cyflwyniadau 3 munud gan ein cyfranogion KESS 2 a KESS 2 Dwyrain, roedd y noson unwaith eto yn lwyfan i’r ymchwilwyr yma o ledled Cymru gystadlu am gyfle i ennill hyd at ddau… Darllen mwy »
Beth Mansfield, myfyrwraig PhD KESS 2, yn cyrraedd rhestr fer Gwobr Ymchwilydd Gyrfa Gynnar y Flwyddyn BTS / BALR / BLF
Mae myfyrwraig PhD KESS 2 Beth Mansfield, o Brifysgol Caerdydd, wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Ymchwilydd Gyrfa Gynnar y Flwyddyn BTS / BALR / BLF ar ôl cyflwyno ei chrynodeb yng Nghyfarfod Gaeaf Cymdeithas Thorasig Prydain (BTS) 2019. O’r 56 ymgais a gyflwynwyd, mae Beth wedi’i dewis fel un o 6 yn y rownd derfynol… Darllen mwy »
Cefnogaeth cymheiriaid yn helpu cynyddu effeithiau llesol gweithgareddau awyr agored
Disgrifiwyd y gogledd fel ‘Prifddinas Antur Ewrop’ ac mae eleni’n cael ei hyrwyddo fel #blwyddynyrawyragored #yearofoutdoors, mae anogaeth inni ddathlu’r mynyddoedd, yr arfordir a chefn gwlad ac i ymgolli yn harddwch naturiol y wlad a medi’r effeithiau llesol. Mae astudiaeth newydd a chyffrous o Brifysgol Bangor yn ystyried a yw’n bosib cynyddu’r manteision llesol… Darllen mwy »








