Mae papur a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn Chemistry: A European Journal (Wiley Online Library/ChemPubSoc Europe) gan Kaitlin Phillips, y prif awdur sy’n fyfyriwr KESS 2, o grŵp ymchwil yr Athro Simon Pope ym Mhrifysgol Caerdydd (Mehefin 2018), ynghyd â chydweithredwyr yn Tsieina, wedi dangos bod rhywogaethau organometalig newydd yn gallu cael eu datblygu sy’n dangos… Darllen mwy »
Categori: Newyddion
Pwysigrwydd Prifysgolion yn gweithio gyda busnesau (Erthygl Western Mail)
Er bod Cymru yn wynebu llawer iawn o ansicrwydd gwleidyddol ac economaidd ar hyn o bryd, rydyn ni’n gwybod bod ffyniant Cymru yn y dyfodol yn dibynnu’n fawr ar ba mor dda y byddwn ni’n datblygu ac yn buddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol. Mae’n hanfodol ein bod ni’n creu ac yn datblygu mantais gystadleuol a bydd… Darllen mwy »
KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor yn arddangos cyllid Cronfa Gymdeithasol Ewrop i ddirprwyaeth o Lywodraeth Cymru
Ddydd Gwener 14 Medi, ymunodd dirprwyaeth o Lywodraeth Cymru â phobl sy’n cymryd rhan yn KESS 2 i arddangos prosiectau yn y Ganolfan Reolaeth ym Mangor. Dewiswyd rhaglen KESS 2 fel enghraifft dda sy’n dangos manteision Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a chafodd y ddirprwyaeth weld amrywiaeth o brosiectau ymchwil. Roedd y bore’n gyfle i’r dirprwywyr weld… Darllen mwy »
Prosiect ymchwil dilyn gwenyn chwyldroadol yn cael ei gynnwys ar BBC Countryfile
Ar ddydd Sul 26 Awst 2018, cafodd prosiect KESS 2 ym Mhrifysgol Bangor sy’n ymchwilio i ddilyn gwenyn ei gynnwys ar raglen gyfoes BBC One, Countryfile. Siaradodd y goruchwyliwr academaidd, Dr Paul Cross ac ymgeisydd PhD, Jake Shearwood â Matt Baker am ymchwil a datblygu’r dechnoleg ar gyfer dilyn gwenyn gyda dyfeisiau electronig bach chwyldroadol,… Darllen mwy »
Cyfranogwr KESS 2, Sebastian Haigh, yn cyhoeddi papur yn y cylchgrawn effaith uchel IEEE TRANSACTIONS
Mae myfyriwr PhD Prifysgol De Cymru wedi datblygu algorithm newydd sydd â’r potensial i newid y ffordd y caiff cleifion sydd â chyflyrau niwrogyhyrolgerbydol difrifol eu hasesu a’u trin. Ar hyn o bryd, yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, mae Sebastian Haigh yn ail flwyddyn o’i ysgoloriaeth wedi’i ariannu… Darllen mwy »
Gwobrau KESS 2 : Digwyddiad Blynyddol : 2018
Ar ddydd Iau, 26 Gorffennaf 2018, cynhaliwyd yr ail noson Gwobrau KESS 2, digwyddiad blynyddol a gynhaliwyd ar gyfer cyfranogwyr y prosiect a ariennir gan ESF, yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yng Nghaerdydd. Roedd y noson yn cynnwys cystadleuaeth fyw o gyflwyniadau, pob un yn cystadlu am gyfle i ennill hyd at ddau wobr;… Darllen mwy »
Myfyriwr PhD KESS 2 wedi’i rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gwyddonydd Ifanc ym maes Lipidau 2018 gan Gymdeithas y Diwydiant Cemegol (SCI)
Mae Kirstie Goggin, cyfranogwr KESS 2 o Brifysgol De Cymru, yn un o chwe myfyriwr PhD yn y DU y mae Cymdeithas y Diwydiant Cemegol wedi’u rhoi ar y rhestr fer ar gyfer ‘Gwobr Gwyddonydd Ifanc ym maes Lipidau 2018’ eleni. Ar ddydd Llun 18 Mehefin 2018, cafodd yr ymgeiswyr ar y rhestr fer eu… Darllen mwy »
Carthysyddion ar ochr y ffordd : Ymchwilwyr yn archwilio’r anifeiliaid sy’n cael eu lladd ar y ffordd nad ydym ni byth yn eu gweld
Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y Journal of Urban Ecology (Gwasg Prifysgol Rhydychen), gan brif awdur a myfyrwraig KESS 2, Amy Williams Schwartz o Brifysgol Caerdydd, yn nodi bod y nifer o anifeiliaid gwyllt sy’n cael eu lladd gan gerbydau modur yn gallu bod yn llawer uwch nag sy’n cael ei adrodd na’i ddeall… Darllen mwy »
Gwobr ryngwladol i wyddonydd y gwlyptir ac academydd KESS 2 o Brifysgol Bangor
Mae darlithydd o Brifysgol Bangor wedi ennill gwobr ryngwladol fawr am y gwaith y mae’n ei wneud ar ddeall rhai o gynefinoedd pwysicaf y byd. Enillodd yr Athro Chris Freeman o Brifysgol Bangor y wobr ar ôl cael enwebiadau gan wyddonwyr ledled y byd, a fu’n ei ganmol fel arweinydd yn ei faes. Rhoddodd Cymdeithas… Darllen mwy »
Llwyddiant Womenspire i oruchwyliwr academaidd KESS 2 Delyth Prys
Mae goruchwyliwr academaidd KESS 2 a pennaeth Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor, Delyth Prys, wedi derbyn gwobr gan brif elusen Cymru ym maes cydraddoldeb rhwng y rhywiau, a hynny am ei gwaith arloesol ym maes technolegau ieithoedd lleiafrifol. Mae Delyth yn arwain tîm o raglennwyr, datblygwyr meddalwedd a therminolegwyr yn yr Uned Technolegau Iaith, uned arbenigol… Darllen mwy »








