Astudiaeth Achos Alumni KESS 2 : Dr Manon Pritchard

Dr Manon Pritchard Award Group Photo

DR MANON PRITCHARD
CYMRAWD SER CYMRU II 

Hoffwn ddiolch yn bersonol i KESS mewn perthynas â’m llwyddiannau academaidd dros y 9 mlynedd diwethaf, ac rwyf yn parhau hyd heddiw i gydweithio â’r un partner diwydiannol a sefydlwyd yr holl flynyddoedd hynny’n ôl.

Cefais ysgoloriaeth PhD KESS yn 2011, gan weithio gydag AlgiPharma AS, cwmni biofferyllol yn Norwy.  Nod cychwynnol y prosiect oedd pennu potensial gwrthficrobaidd eu cyfansoddyn newydd a oedd yn dod o wymon.  Bues i’n gweithio gyda Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe; roedd hyn yn golygu fy mod yn gallu defnyddio technolegau arloesol yn y naill sefydliad a’r llall, ac roeddwn yn gallu gweithio gyda biolegwyr moleciwlaidd, microbiolegwyr, peirianwyr, rheoleogwyr, ffisegwyr, gwyddonwyr cyfrifiadurol a meddygon i helpu i gyfarwyddo llwyddiant y gwaith.  Roedd cydweithio â’r ganolfan ragoriaeth briodol wedi arwain at ymchwil trawsfudol arloesol.  Roedd hefyd yn golygu bod y cwmni’n gallu cael gafael ar glinigwyr a fyddai’n darparu samplau cleifion ynghyd â syniadau ac adborth hollbwysig ar gyfer y prosiect.  Cafwyd rhagor o grantiau bach a oedd yn golygu fy mod i’n gallu dysgu technegau newydd ee gwasgaru niwtronau ongl fach (ILL; Grenoble) a dysgu rhagor am fecanwaith gweithredu’r cyfansoddyn.

Ar ôl cwblhau fy PhD, cefais swydd cydymaith ymchwil ôl-ddoethurol (PDRA) drwy raglen grant a gyllidwyd gan Gyngor Ymchwil Norwy ar y cyd ag AlgiPharma AS.  Roedd y gwaith hwn wedi cyfrannu’n uniongyrchol at sefydlu nifer o gydweithrediadau ymchwil newydd i’r cwmni, a dros y blynyddoedd mae’r gwaith wedi cael ei gyflwyno (mewn cynadleddau Cenedlaethol a Rhyngwladol) a’i gyhoeddi mewn cyfnodolion sy’n cael eu hadolygu gan gyfoedion, ac wedi cyfrannu at lawer o gefnogaeth cyllid trydydd parti ar gyfer yr ymchwil (>$10M).  Rwyf bellach yn goruchwylio fy myfyriwr PhD KESS2 fy hun ar y cyd, gan weithio gyda’r un partner diwydiannol.  Mae llwyddiant parhaus y bartneriaeth ddiwydiannol (ar ôl bron i 10 mlynedd ers i mi weithio gyda nhw gyntaf) nawr wedi arwain at ragor o gydweithrediadau partner diwydiannol ar fy Nghymrodoriaeth Ymchwil Meddygaeth Fanwl Sêr Cymru II, a gefais yn 2018.

Mae’n rhaglen cymorth cyllid PGR yng Nghymru sy’n gweithio gyda diwydiant ac mae’n hanfodol i gadw doniau ymchwil cynhenid yn y wlad.  Mae canlyniadau posibl cydweithio rhwng diwydiant a’r byd academaidd yn sylweddol ac mae’n parhau i sbarduno ymchwil trawsfudol ac arloesol er budd clinigol.  Rwy’n un o nifer o fyfyrwyr dros y degawd diwethaf sydd yn sicr wedi elwa ar y rhaglen ardderchog hon.

Cydweithredu â’r Diwydiant

Mae’r gwaith yma wedi fy nghynnal i ond mae hefyd wedi arwain at gwblhau tair ysgoloriaeth ymchwil PhD arall, 3 traethawd MSc, cyllid ar gyfer 6 swydd PDRA a 2 dechnegydd, i gyd yn cydweithio ar yr un cyfansoddyn gwrthficrobaidd. Yn fwy na hynny, rydym wedi darparu lleoliadau i 3 myfyriwr Erasmus o Brifysgol Angers a 4 lleoliad i fyfyrwyr Nuffield, sy’n darparu profiad labordy i blant o gefndiroedd difreintiedig.  Mae hefyd wedi arwain at ragor o gyhoeddusrwydd, i’n Hysgol ac i Brifysgol Caerdydd, ac mae ein gwaith ymchwil wedi cyrraedd y newyddion.  Ar hyn o bryd rwyf hefyd yn gweithio gyda’r cwmni i olygu rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn, Marine Drugs.

 

EFFAITH

Mae’r cyfle KESS hwn wedi arwain at nifer o geisiadau llwyddiannus i’r cwmni am batentau, a hyd yma, 13 o bapurau ymchwil wedi’u cyhoeddi mewn cyfnodolion, 33 crynodeb a phennod mewn llyfr.  Ar ben hynny, mae’r gwaith in vitro i ddeall mecanwaith gweithredu eu cynnyrch wedi helpu i gyfrannu at agweddau clinigol o’r treial clinigol in vivo.  Mae cydweithio a chyfathrebu agos â’m partner diwydiannol wedi golygu bod y gwaith wedi datblygu’n gyflym a’i fod bellach wedi cyrraedd treialon clinigol Cam IIb/III fel therapi mewnanadlu ar gyfer cleifion ffeibrosis systig.  Rydym hefyd nawr yn ymwneud â gwella portffolio’r cwmni i ddatblygu rhagor o gynnyrch i dargedu anghenion clinigol eraill sydd heb eu diwallu.

UCHAFBWYNTIAU CYFRANOGIAD KESS 2

Dr Manon Pritchard Award Group Photo

Dr Manon Pritchard (chwith pellaf) yn derbyn Gwobr Effaith Feddygol ac Arloesi Prifysgol Caerdydd gyda’i grŵp ymchwil yn 2017.

Yn ystod fy PhD a’m swydd PDRA, roeddwn wedi cyflwyno nifer o grynodebau o’m hymchwil mewn cynadleddau lleol a rhyngwladol. Roedd hyn yn gwella portffolio fy mhartner diwydiannol yn ogystal â’u proffil yn fyd-eang.  Roedd ein grŵp ymchwil yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd wedi ennill Gwobr Effaith Feddygol ac Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn 2017.  Buom yn y seremoni wobrwyo fawreddog yn Adeilad Morgannwg yng Nghanolfan Ddinesig Caerdydd a mwynhau’r noson yn dathlu cydweithrediad llwyddiannus dros ben, a oedd yn canolbwyntio ar drosi canfyddiadau labordy i’r lleoliad clinigol, i gyd er budd tymor hir cleifion.

 


Menter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru yw Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2). Mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Am ragor o wybodaeth am sut y gallai eich sefydliad elwa o gymryd rhan yn KESS 2, cysylltwch â thîm canolog KESS 2 ym Mangor ar: kess2@bangor.ac.uk 

Cardiif University, AlgiPharma, ESF Logostrip