Gwyddonwyr Cymru yn helpu i gadw ein bwyd yn iach, yn ddiogel ac yn gynaliadwy

Kirstie Goggin in the lab

Mae llawer o’r bwyd yn y DU yn dod drwy gadwyni cyflenwi sy’n aml yn gymhleth ac yn cynnwys nifer o gynhyrchwyr a phroseswyr o bedwar ban byd. Yn anffodus, gall hyn arwain at arferion anghyfreithlon a/neu anfoesol oherwydd gall rhai cynhwysion gael eu halogi gan ddifwynwyr neu eu caffael o ffynonellau annymunol. Mae enghreifftiau diweddar o hyn yn cynnwys defnyddio cig ceffyl yn hytrach na chig eidion mewn byrgyrs, a defnyddio cemegau lliw gwenwynig i liwio bwyd.

Fel rhan o’r cydweithrediad arloesol ag IMSPEX Diagnostics Ltd, sef cwmni diagnosteg yn Abercynon, mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol De Cymru yn gweithio tuag at ganfod ateb i’r problemau hyn drwy ddefnyddio uwch-dechnoleg. Cyfarwyddwr y prosiect yw’r Athro Denis Murphy ac fe gaiff y prosiect ei ariannu gan Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2) sy’n dod o Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Y prif ymchwilydd yw’r fyfyrwraig PhD, Kirstie Goggin sy’n canolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu technolegau cemegol a moleciwlaidd newydd gan ddefnyddio dull o’r enw Sbectrostgopeg Symudedd Ïonau (IMS) i ddadansoddi olew llysiau yn gyflym. Mae dros hanner yr eitemau sy’n cael eu stocio mewn archfarchnadoedd yn y DU yn cynnwys yr olewon hyn, ond nawr mae’n ymddangos efallai nad ydynt bob amser yn bur.

Crude Oil

Mewn un agwedd ar ei gwaith, mae Kirstie yn gobeithio datblygu dulliau syml a chyflym o bennu tarddiad daearyddol olew palmwydd – gyda’r gobaith o’i gwneud yn haws ei olrhain a chynyddu cynaliadwyedd mewn cadwyni cyflenwi olew palmwydd. Er enghraifft, efallai y bydd siopwyr yn dymuno cael tawelwch meddwl o wybod bod olew palmwydd – sydd wedi’i gynnwys mewn nifer o fwydydd, gan gynnwys siocled, hufen iâ a phrydau parod – yn cael ei gyflenwi gan gynhyrchwyr cynaliadwy, nid planhigfeydd sy’n cael eu creu drwy ddymchwel coed mewn coedwigoedd trofannol.

Mae Kirstie hefyd yn gweithio ar ganfod difwynwyr mewn olew llysiau, gan gynnwys olew palmwydd. Y bwriad yma yw gwella dilysrwydd mewn cadwyni cyflenwi, gan warchod iechyd defnyddwyr a’u hyder yn y bwydydd y maent yn eu prynu. Er enghraifft, ddechrau 2018, fe wnaeth gwyddonwyr llywodraeth y Swistir ganfod bod lliw carsinogenig o’r enw Sudan IV wedi cael ei ychwanegu’n fwriadol at olew palmwydd rhad  a di-liw wedi’i buro er mwyn gallu ei werthu fel ‘olew palmwydd coch’ drud sy’n llawn fitaminau.

Er mwyn helpu â’r ymchwil hwn, mae tîm De Cymru wedi ymuno â chydweithwyr mewn prifysgol amaethyddiaeth a sefydliad ymchwil bwyd sydd gyda’r mwyaf blaenllaw yn Ewrop – Prifysgol ac Ymchwilfa Wagenigen (WUR) yn ogystal â nifer o bartneriaid yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus ym Malaysia, sef un o brif gynhyrchwyr olew palmwydd y byd.

Dywedodd Denis Murphy, cyfarwyddwr y prosiect: “Mae bwyd yn rhan mor bwysig o’n bywydau bob dydd, a’n diwylliant hefyd, felly mae angen i ni fynd ati o ddifrif wneud popeth y gallwn ei wneud i ddiogelu ei burdeb, ei ansawdd a’i effaith ar yr amgylchedd. Er bod llawer o fwydydd yn cael eu masnachu ledled y byd a chanddynt gadwyni cyflenwi eithriadol o gymhleth, rydyn ni’n hyderus y gallwn leihau neu ddiddymu twyll a difwyno drwy ddefnyddio dulliau gwyddonol, gan sicrhau budd i bawb yn y pen draw.”

Erthygl cysylltiedigKESS 2 PhD student is shortlisted by the Society of Chemical Industry (SCI) for 2018 Young Lipid Scientist Award