Datblygu technolegau cemegol a genomig newydd ar gyfer olrhain a sicrhau ansawdd olew llysiau bwytadwy a diwydiannol

Kirstie Goggin

Dyfarnwyd Kirstie Goggin ei PhD trwy Raglen KESS 2 (a ariennir gan Cronfa Gymdeithasol Ewrop) mewn amserlen anhygoel o 3 blynedd 4 mis. Hi yw y ferch cyntaf i dderbyn PhD drwy KESS 2 ym Mhrifysgol De Cymru.


KIRSTIE GOGGIN
SAFBWYNT MYFYRIWR

Roedd fy PhD yn ymwneud â datblygu dulliau cemegol a genetig newydd i wella prosesau olrhain, tryloywder a dilysrwydd mewn cadwyni cyflenwi bwyd. Canolbwyntiais ar olew palmwydd oherwydd ei fod (ac mae’n dal i fod) mor amserol, ac roedd angen dulliau newydd ar frys i gefnogi dulliau gweithredu cyfredol.

Er bod llawer o’r farn mai olew palmwydd yw’r ‘gelyn trofannol’, roedd yn ddiddorol iawn gweithio yn y maes hwn, a chlywed gwahanol safbwyntiau pobl. Gan fod olew palmwydd yma i aros (mae llawer o elfennau cadarnhaol i’r diwydiant nad ydych yn clywed amdanynt), y peth gorau yw hyrwyddo prosesau cynhyrchu cynaliadwy a chael sgyrsiau ystyrlon ac addysgol, yn hytrach na chanolbwyntio ar y pethau negyddol yn unig.

SAFBWYNT Y CWMNI

Y sefydliad partner oedd IMSPEX Diagnostics Ltd yn Abercynon, Rhondda Cynon Taf. Mae IMSPEX yn canolbwyntio ar ddatblygiad parhaus ei blatfform adnodd dadansoddol GC-IMS a’i amrywiol raglenni ym maes dadansoddi gwybodaeth sensitif o ansawdd labordy. Dywedodd Dr Emma Brodrick, sy’n Rheolwr Rhaglenni yn IMSPEX, ac yn un o gyn-fyfyrwyr KESS 1, fod IMSPEX yn gwerthfawrogi Dr Kirstie Goggin a’i gwaith, gan ddweud,

“Mae Kirstie wedi bod yn fyfyriwr ardderchog a oedd bob amser yn awyddus i weithio, gan gwblhau ei gwaith yn brydlon, a helpu IMSPEX gymaint â phosibl. Cwblhaodd ei PhD mewn 3 blynedd a 4 mis, ac roedd ei hagwedd a’i ffordd o weithio wedi creu cymaint o argraff arnom, nes ein bod bellach yn ei chyflogi rhan-amser yn IMSPEX. Rydym wedi darparu’r adnodd dadansoddol sydd ei angen arni ar gyfer cyflawni prosesau dadansoddi ei hymchwil, yn ogystal â chyngor mewnol ar gwblhau PhD KESS, gan fy mod innau wedi gwneud hynny fy hun yn 2016. Helpodd Kirstie i godi proffil IMSPEX drwy sbarduno rhaglenni newydd yn y diwydiant olew palmwydd a gwneud cyflwyniadau mewn nifer o gynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol a mynd i ddigwyddiadau diwydiant i arddangos yr adnodd a datblygu cysylltiadau newydd. Yn fwyaf nodedig, mae wedi cyhoeddi’r rhan fwyaf o’i chanfyddiadau mewn cyfnodolion gwyddonol sydd wedi’u hadolygu gan gyfoedion, sydd wedi helpu i godi ein proffil ymhlith y gymuned academaidd.”

 

Mae cynnal fy ymchwil wedi bod yn broses heriol iawn, ond hefyd yn un sy’n rhoi boddhad. Gyda chefnogaeth fy ngoruchwylwyr yn PDC (yr Athro Denis Murphy, yr Athro Tony Davies a Dr Jeroen Nieuwland), fy mhartner diwydiannol (IMSPEX Diagnostics Ltd) a goruchwylydd y cwmni (Dr Emma Brodrick), KESS 2 a PDC, roeddwn yn gallu cyflwyno fy thesis PhD yn fuan ar ôl y cyfnod a gafodd ei ariannu a phasio fy Viva gwta 2 fis ar ôl hynny!

Rwyf wedi cydweithio â llawer o bartneriaid tramor, un yn arbennig sydd bellach yn parhau â’m gwaith drwy brosiect ymchwil diwydiannol, a dau brosiect PhD arall. Hyd yn hyn, rwyf wedi cyhoeddi pedwar papur mewn cyfnodolion sydd wedi’u hadolygu gan gyfoedion; wedi cyflwyno dau arall; ac mae gennyf ddau arall i’w hysgrifennu. Rwy’n gobeithio y bydd pobl sydd â diddordeb yn y maes ymchwil hwn yn darllen fy ngwaith ac yn cael rhai syniadau ar gyfer ymchwil yn y dyfodol.

Kirstie Goggin Poster

Cafodd Kirstie ei rhoi ar y rhestr fer am y Wobr Gwyddonydd Lipid Ifanc yn 2018 a gwnaeth gyflwyniad yn sefydliad enwog y BRI Campden. Teithiodd i Felfast i gyflwyno ei gwaith ac fe enillodd y wobr poster gorau mewn cynhadledd a gynhaliwyd ym Mhrâg hefyd. Gallwch weld poster Kirstie yma

EFFAITH

GWELLA ANSAWDD OLEW PALMWYDD

Mae Kirstie Goggin ac IMSPEX wedi gallu dangos y gellir defnyddio GC-IMS yn y diwydiant olew palmwydd i sgrinio am ddifwynwyr niweidiol, a ddylai wella ymddiriedaeth a hyder defnyddwyr yn y diwydiant.

ARWAIN Y FARCHNAD

Mae’r prosiect KESS 2 wedi galluogi IMSPEX i bennu ei hun fel arweinydd wrth ddadansoddi olew palmwydd er mwyn canfod difwynwyr a phennu tarddiad daearyddol.

PARTNERIAETH SY’N TYFU AC SY’N ARWAIN AT WELLIANT YN Y GADWYN GYFLENWI OLEW PALMWYDD HIRDYMOR

Mae’r prosiect wedi galluogi IMSPEX i greu cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant olew palmwydd. Mae’r gwaith bellach yn cael ei gyflawni drwy brosiectau ymchwil academaidd a diwydiannol amrywiol dros y blynyddoedd nesaf.

UCHAFBWYNTIAU KIRSTIE:

Cefais lawer o brofiadau melys drwy gydol fy amser fel myfyriwr KESS 2; un o’r rhai mwyaf heriol ar y pryd oedd siarad â 1000+ o fyfyrwyr y chweched dosbarth (yn y llun isod) am gyfyng-gyngor moesegol cynhyrchu olew palmwydd. Roedd hyn i mi yn garreg filltir bersonol; mae siarad yn gyhoeddus wedi bod yn rhywbeth sydd wedi codi ofn mawr arnaf erioed ac fe wnaeth hyn fy arwain i siarad mewn llawer mwy o ddigwyddiadau cyhoeddus. Roeddwn i’n gwybod hefyd, pan oeddwn i’n dilyn fy nghwrs Safon Uwch mewn Bioleg, y byddai clywed gan wyddonydd benywaidd ifanc a oedd yn teimlo’n angerddol am ei hymchwil wedi fy ysbrydoli.

Kirstie Goggin talks to 6th form pupils

Uchafbwynt arall oedd ymweld â labordai ymchwil diogelwch bwyd Wageningen yn yr Iseldiroedd. Y labordai hyn yw’r mannau cyntaf i ymweld â nhw o ran unrhyw ddigwyddiad diogelwch bwyd ac mae’n nefoedd i unrhyw un sydd wrth ei fodd â labordai! Dadansoddwyd yr holl gynhyrchion a oedd yn gysylltiedig â’r sgandal cig ceffyl yn 2013 yma gan arbenigwyr diogelwch bwyd. Ymwelais â’r labordy i ddefnyddio PTR-TOF, sy’n becyn uwch-dechnoleg drud iawn. Roedd yn allweddol i’m hymchwil gan ei fod yn fy ngalluogi i gadarnhau fy nghanfyddiadau cychwynnol, a oedd yn bwysig ar gyfer dilysu’r dull ac at ddibenion cyhoeddi.  ‘Dechreuais deimlo fel gwyddonydd go iawn!’

Kirstie Goggin in the lab

Menter sgiliau lefel uwch Cymru gyfan sy’n cael ei harwain gan Brifysgol Bangor ar ran y sector AU yng Nghymru yw Ysgoloriaethau Sgiliau’r Economi Wybodaeth (KESS 2). Mae’n cael ei hariannu’n rhannol gan raglen gydgyfeirio Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF) Llywodraeth Cymru ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd. Am ragor o wybodaeth am sut y gallai eich sefydliad elwa o gymryd rhan yn KESS 2, cysylltwch â thîm canolog KESS 2 ym Mangor ar: kess2@bangor.ac.uk neu dîm KESS 2 PDC ar: kess@southwales.ac.uk

Mae tîm KESS 2 PDC wedi’i leoli yng Ngwasanaethau Ymchwil ac Arloesi (RISe), sy’n rhan o’r Adran Ymchwil ac Ymgysylltu â Busnes. Mae RISe yn dîm ymroddedig sy’n darparu cymorth arbenigol ar gyfer Seilwaith Ymchwil; Cymorth Ymchwil Ôl-raddedig; Effaith Ymchwil; a Chynhyrchu Incwm. Ewch i: https://www.southwales.ac.uk/cymraeg/ymchwil/

Logos: USW / IMSPEX / ESF

Erthyglau cysylltiedig:

Gwyddonwyr Cymru yn helpu i gadw ein bwyd yn iach, yn ddiogel ac yn gynaliadwy

Myfyriwr PhD KESS 2 wedi’i rhoi ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Gwyddonydd Ifanc ym maes Lipidau 2018 gan Gymdeithas y Diwydiant Cemegol (SCI)